Ymuno â CABoMA

Achub bywydau, cadw’n heini, cael hwyl
Ymuno

Aelodaeth

Grwpiau Oedran:
Plantos 7-12 oed
Iau 12-17 oed
Hŷn 17-30 oed
Meistri 30+

Y tâl aelodaeth yw £80 unwaith y flwyddyn i bob oedran (Plantos, Iau, Hŷn a Meistri); mae hyn ar gyfer ymaelodi, yswiriant, defnyddio offer y clwb a PHOB sesiwn hyfforddi (yn y pwll ac ar y traeth) felly ni fydd tâl ychwanegol ar gyfer sesiynau yn y pwll.

Mae aelodaeth y clwb ar gael i bawb sydd yn 7 oed ac yn hŷn; yr unig amod yw’r gallu i basio ein asesiad cymhwyster nofio sydd yn gofyn i chi allu dangos y sgiliau angenrheidiol ar gyfer Cymhwyster Lefel 7 Dysgu Nofio y Gymdeithas Nofio Amatur.

Os hoffech roi eich enw ar restr aros y clwb neu os hoffech wybod mwy mae croeso i chi gysylltu â ni.

Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthoch:

Sesiynau Hyfforddi

Sesiynau’r Gaeaf yn y pwll (Tachwedd – Mawrth):

Dyddiau Sul 11yb – 12 yp (Pwll Nofio’r Brifysgol)

Sesiynau’r Haf ar y traeth (Mai – Medi):

Dyddiau Mercher 5.30yp – 6.30yp (Traeth y Gogledd)

Dyddiau Sul 11.30yb – 1.30yp (Traeth y Gogledd)

Sesiynau Dydd Gwener

Dyddiau Gwener xxxxxxxxxxxxxxx

Beth sydd ei angen arnaf i?

Sesiynau yn y pwll

Dillad nofio, sbectol dŵr, cap nofio, tywel, dŵr i’w yfed. Dewisol: esgyll nofio, bwrdd cicio, bwi tynnu.

Sesiynau ar y traeth:

Gwlypwisg, sgidiau dŵr (mae’n rhai i’r plantos wisgo sgidiau dŵr), fest nofio’r clwb, dillad nofio, sbectol nofio, eli haul, tywel, dŵr. Ac mae’n rhaid i chi ddod â dillad sych a chynnes i newid rhag ofn y bydd yn rhaid i ni adael y dŵr yn gynnar yn ystod ein sesiynau.

Mae’r clwb yn darparu’r holl offer dŵr ac offer achub ar gyfer hyfforddi.

ASLSC Club Clothing

Gallwch brynu dillad y clwb drwy ymweld â’n siop ar-lein

Edrychwch yn Siop Gyfnewid CABOMA ar gyfer dillad y clwb